Email: enquiries
barmouthbandb.co.uk
Map Google yma
Croeso
i'n hafan Welcome to our homepage Willkommen
auf unserer Homepage
Rydym yn ffyddiog bydd y croeso in cartref yn un cynnes,
ond cyn i chi cysylltu â ni mae sawl peth i gysidroi:
- Dim ond tair ystafell osod sydd gennym ac mae'r tŷ yn gartrefol
iawn.
- Os ydych yn deulu efo plant dan 12 bydd rhaid i chi archwilio gwefan arall
- nid yw Dros y Dŵr yn dŷ addas i blant dan 12 oed.
- Os ydych yn ffan o'r rhaglenni sebon neu yn methu byw heb y newyddion
diweddaraf ni fyddech yn hapus yma - does dim teledu yn y tŷ
ond mae gennym WIFI yn rhad ac am ddim.
- Mae 22 gris at y drws ffrynt ac 16 o risiau i gyrraedd yr ystafelloedd
ar y llawr cyntaf, felly, os ydych yn cael unrhyw anhawster i ddringo grisiau
bydd yn well i chi ffeindio lle sy'n fwy addas i'ch anghenion. Nid yw Dros
y Dŵr yn safle hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.
- Gwell bod nadroedd, pryfed brigyn ac anifeiliaid anwes cyffredin eraill
yn aros adref.
- Yn ystod gwyliau haf yr ysgol, a gwyliau banc, mae parcio yn Abermaw yn
anodd. Gyferbyn â'r tŷ mae yna gilfach barcio (yn rhad ac am ddim
pan fydd lle), a rhwng 18:00 a 09:00 mae'n iawn i adael eich car ar y ffordd
o flaen y tŷ.
- Rydym yn derbyn tâl trwy siec neu arian parod yn unig - nid ydym yn derbyn
cardiau credyd neu ddebyd.