Gwely a Brecwast
Zimmer mit Frühstück
6 Bro Gyntun, Abermaw, Gwynedd LL42 1LX
Tel. 01341 280284
Mae ardal Abermaw yn fendigedig i gerdded a heicio, gydag amrywiaeth o lwybrau i siwtio (ac i herio'r) cerddwr profiadol, a chi sydd ond yn mwynhau tro bach hanner awr ar ôl cinio. Mae tirwedd hynafol y Rhinogydd yn ysblennydd ac mae'n bosibl dechrau eich taith gerdded o'r drws (gan fwynhau dyddiau heb y car). Mae nifer helaeth o lyfrau cerdded a mapiau yn y llyfrgell fach ar y ail lawr. Mae'r beicio yn yr ardal yn ardderchog hefyd!
Llwybr Mawddach
Taith Ardudwy
Taith Mawddach
Coed y Brenin
I chi sy'n addoli'r haul, mae traethau'r ardal yn lân, ac mae'r unig draeth ymdrochi (swyddogol) i noethlymunwyr rhyw bum milltir i'r gogledd.
Castelli - wrth gwrs, yn Harlech a Chricieth, a'r em llai adnabyddus, Castell y Bere yn Nyffryn Dysynni.
Ac yna'r trên ager - trwy Orffennaf ac Awst mae'r 'Cambrian' yn teithio o Fachynlleth,
trwy Abermaw, i Borthmadog.
A llawer, llawer mwy: - http://www.visitsnowdonia.info/